Find your perfect home.
Let us know what you are looking for in your new home and we will tailor our search to your requirements.
Cofrestriadau Prynwyr a Thenantiaid
"*" indicates required fields
Os ydych chi’n symud tŷ yng Nghymru, ac nid ydych yn prynu tŷ am y tro cyntaf, mae’n debygol y byddwch yn prynu a gwerthu tŷ ar yr un pryd. Wrth brynu a gwerthu tŷ ar yr un pryd, rhywbeth y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ei wneud ar ryw bwynt, mae gennych chi opsiynau eraill. Os oes gennych chi’r arian, gallwch brynu eich cartref yng Nghymru cyn gwerthu. Neu, gwerthwch eich cartref yn gyntaf, cyn symud i lety dros dro, ac wedyn prynu eich eiddo newydd.
Os nad yw’r opsiynau hyn yn addas i chi, ac rydych yn rhan o gadwyn eiddo, peidiwch â phoeni. Er bod cadwyni’n gallu bod yn broses gymhleth, mae nifer o ffyrdd o sicrhau bod y profiad yn un llyfn - dilynwch ein hawgrymiadau arbennig ar gyfer prynu a gwerthu ar yr un pryd yng Nghymru.
Dyma’r cam cyntaf wrth brynu a gwerthu tŷ ar yr un pryd, ac mae’n un hanfodol. Mae angen ichi fod yn sicr faint o arian allwch chi ei wario a phennu cyllideb glir cyn dechrau arni. Dylech drefnu i’ch eiddo presennol gael ei brisio. Yn ystod camau cyntaf gwerthu eich cartref, bydd prisiadau ar-lein, fel ein hofferyn prisio am ddim, yn eich helpu i amcangyfrif gwerth eich eiddo. Rydym yn eich argymell i drefnu prisiad wyneb yn wyneb er mwyn mesur gwerth marchnad eich cartref mor gywir â phosibl, yn enwedig os yw eich eiddo ychydig yn wahanol i’r tŷ cyffredin.
Ar ôl deall pris gwerthu posibl eich tŷ, gallwch ychwanegu ychydig o'ch cynilion i’ch cyllideb. Byddwch yn ymwybodol o gostau symud eraill, er enghraifft, cyfreithiwr a ffioedd asiant tai a Threth Trafodiadau Tir (treth stamp). Gall y costau ychwanegol hyn wneud tolc mawr yn eich cyllideb.
Yn ogystal â hynny, dylech ystyried eich morgais presennol, a ph’un a ydych yn gallu ei barhau i’r eiddo newydd, neu a fydd angen benthyciad arall arnoch chi. Mae cyfraddau morgais yn hynod gyfnewidiol ar hyn o bryd, felly os oes angen codi morgais newydd arnoch chi, dechreuwch chwilio o gwmpas cyn gynted â phosibl. Un opsiwn fyddai ffonio ein hasiantaeth ar gyfer Cymdeithas Adeiladu Principality yn Llangefni neu Gaergybi ar Ynys Môn.
Ar ôl dod i drefn gyda’ch arian, mae’n amser chwilio am brynwr. Wrth brynu a gwerthu ar yr un pryd, mae’n syniad da rhoi eich tŷ ar y farchnad cyn dechrau ymweld ag eiddo a chyflwyno cynigion. Mae bod â chais sydd wedi'i dderbyn ar eich cartref presennol yn rhoi hyder i werthwyr, ac mae'n fwy tebygol y bydd unrhyw gynnig rydych yn ei wneud yn cael ei dderbyn.
Dewiswch eich asiant yn ofalus wrth roi eich tŷ ar werth. Peidiwch â gwneud eich penderfyniad yn seiliedig ar y ffioedd rhatach neu’r prisiad uchaf. Chwiliwch am asiant lleol da, sydd â phrofiad yn yr ardal, ac yn ddelfrydol, chwiliwch am logos y cyrff proffesiynol mae’r asiant yn aelod ohonynt e.e. RICS, Propertymark NAEA a The Guild of Property Professionals, gan eu bod, fel arfer, â gwell profiad o ddatrys problemau a all godi wrth ymdrin â chadwyni eiddo.
Cofiwch, y gwahaniaeth rhwng y pris rydych yn gwerthu eich tŷ amdano a’r pris rydych yn prynu eich eiddo newydd amdano sy’n bwysig.
Ar ôl sicrhau cynnig ar gyfer eich eiddo, mae’n amser dechrau chwilio am eich cartref delfrydol. Er bod llai o alw yn y farchnad yng Nghymru nag y llynedd, mae cystadleuaeth uchel ar gyfer y cartrefi mwyaf atyniadol o hyd, felly byddwch yn barod i weithredu’n gyflym os ydych yn dod o hyd i’ch eiddo delfrydol. Chwiliwch yn fanwl ar wefannau pyrth eiddo ac asiantau tai, a chofiwch osod hysbysiadau a chofrestru ar gyfer negeseuon hysbysu os yw’r cartref cywir yn codi. Gyda tppuk, caiff eiddo eu rhestru ar ein gwefan cyn eu bod yn ymddangos ar byrth, felly cadwch lygad ar tppuk, a pheidiwch â cholli’r eiddo gorau. Os oes gennych chi gynnig ar eich tŷ chi, bydd y rhan fwyaf o asiantau yn eich trin fel prynwr gwirioneddol a chwsmer blaenoriaeth pan gaiff eiddo eu rhestru.
Mae’n syniad da trefnu cyfreithiwr trosglwyddo o'r dechrau un, fel eich bod yn gallu eu cyfarwyddo pan rydych yn dod o hyd i brynwr ac wedi derbyn cynnig. Mae trosglwyddwyr yn ymdrin ag ochr gyfreithiol y gwerthiant, gan gynnwys contractau ac archwiliadau. Yn yr un modd â’ch asiant tai, mae’n bwysig sicrhau trosglwyddwr da a fydd yn helpu i sicrhau bod y broses yn un llyfn, felly byddwch yn ystyriol nad yr opsiwn rhataf yw’r gorau bob tro. Cymerwch gip ar adolygiadau a gofynnwch am argymhellion personol.
Bydd eich trosglwyddwr yn trefnu dyddiadau cyfnewid a chwblhau - tasg anodd os ydych yn rhan o gadwyn hir, oherwydd bydd angen ichi gytuno ar ddyddiad sy'n plesio pawb. Byddwch hefyd yn cyfnewid contractau ar y pwynt hwn, sy’n golygu bod pawb wedi ymrwymo i’r prynu a’r gwerthu.
Os ydych chi’n ystyried gwerthu eich cartref yng ngogledd Cymru, cysylltwch â ni. Mae gennym ddigonedd o brofiad o lywio cadwyni eiddo yn yr ardal, a chanfod y prynwyr iawn yn y farchnad sydd ohoni heddiw. Trefnwch brisiad heb unrhyw rwymedigaeth heddiw.
Let us know what you are looking for in your new home and we will tailor our search to your requirements.
"*" indicates required fields
Want to discuss something more specific?
Gofynnwch am alwad yn ôl gydag un o'n trafodwyr.
"*" indicates required fields